Thomas Love Peacock
Thomas Love Peacock | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1785 Weymouth |
Bu farw | 23 Ionawr 1866 Shepperton |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, llenor, rhyddieithwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Nightmare Abbey, Headlong Hall, Crotchet Castle, Maid Marian, The Legend of the Manor Hall |
Arddull | nofel ddychanol |
Plant | Edward Gryffydh Peacock, Mary Meredith |
Llenor o Loegr oedd Thomas Love Peacock (18 Hydref 1785 – 23 Ionawr 1866), a aned yn Weymouth, Dorset, de Lloegr. Roedd yn gyfaill i'r bardd Shelley ond nid oedd yn un o awduron mwyaf adnabyddus ei oes. Dim ond ar ôl ei farwolaeth y dechreuodd beirniaid a darllenwyr werthfawrogi ei waith. Efallai taw un rheswm am hynny yw'r ffaith mai nofelau bwrlesg byrion oedd ei hoff gyfrwng, a hynny mewn cyfnod yn hanes llenyddiaeth Saesneg pan ddisgwylid i unrhyw nofel werth yr enw lenwi tair cyfrol.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Peacok yn Weymouth. Roedd ei dad yn fasnachwr gwydr. Bu farw'r tad pan oedd Peacok yn dair oed ac aeth ef a'i fam i Chertsey, Swydd Surrey i fyw efo'i daid ar ochr ei fam. O wyth mlwydd oed hyd ei fod yn dri ar ddeg bu Peacock mewn ysgol yn Englefield Green, a oedd yn cael ei gadw gan gwr o'r enw Mr Wicks. Yn ôl Peacock Nid oedd yr athro yn llawer o ysgolhaig; ond roedd ganddo'r grefft o ysbrydoli ei ddisgyblion gyda'i gariad at ddysgu."
Cafwyd rhagolwg o ddawn Peacock fel awdur tra yn yr ysgol pan enillodd wobr am draethawd yn y cylchgrawn ieuenctid "The Juvenile Library"
Yn un ar bymtheg oed symudodd Peacock gyda'i fam i Lundain, lle bu am gyfnod yn dilyn galwedigaeth fasnachol. Yn Llundain bu'n gwneud defnydd helaeth o adnoddau llyfrgelloedd y ddinas i wella ar ei addysg. Yn Llundain cyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf, y llyfrau o gerddi The Monks of St. Mark a Palmyra.[1]
Cymru
[golygu | golygu cod]Yn 1829, cyhoeddodd Thomas Love Peacock ei nofel fer The Misfortunes of Elphin. Mae hi'n nofel fwrlesg sy'n seiliedig yn fras ar hanes Elffin a Taliesin yn y chwedl Hanes Taliesin ond sy'n cynnwys yn ogystal hanes Cantre'r Gwaelod a sawl cymeriad o hanes traddodiadol Cymru. Mae ffynonellau Peacock yn anhysbys, ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â fersiwn o Hanes Taliesin. Roedd ei nofel hir cyntaf, ''Headlong Hall'' hefyd wedi ei leoli yng Nghymru. Mae'r llyfr yn hanes criw o ddynion yn teithio ar Goets Bost Caergybi i Gapel Curig i ymweld â Headlong Hall, cartref man bonheddwr, Cymreig. Gan watwar tueddiad y Cymry bonheddig i Saesnigeiddio eu hunnain mae'n egluro'r modd cymhleth y llygrwyd yr enw Neuadd y Pistyll gan ei droi i Headlong (rhywbeth i wneud efo'r ffaith bod pistyll yn mynd dros y dibyn gerfydd ei phen).[2] Ymwelodd â Meirionnydd sawl gwaith a phriododd ferch leol, sef Jane Gryffydh neu Griffith yn 1820.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gwsg yn Lower Halliford, Middlesex, ar 23 Ionawr 1866 a chladdwyd ef chwe diwrnod yn ddiweddarach ym mynwent newydd Shepperton.[3]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- Headlong Hall (1815/1837)
- Melincourt (1817)
- Nightmare Abbey (1818/1837)
- Maid Marian (1822)
- The Misfortunes of Elphin (1829)
- Crotchet Castle (1831/1837)
- Gryll Grange (1861)
Cerddi
[golygu | golygu cod]- The Monks of St. Mark (1804?)
- Palmyra and other Poems (1805)
- The Genius of the Thames: a Lyrical Poem (1810)
- The Genius of the Thames Palmyra and other Poems (1812)
- The Philosophy of Melancholy (1812)
- Sir Hornbook, or Childe Launcelot's Expedition (1813)
- Sir Proteus: a Satirical Ballad (1814)
- The Round Table, or King Arthur's Feast (1817)
- Rhododaphne: or the Thessalian Spirit (1818)
- Paper Money Lyrics (1837)
Traethodau
[golygu | golygu cod]- The Four Ages of Poetry (1820)
- Recollections of Childhood: The Abbey House (1837)
- Memoirs of Shelley (1858-60)
- The Last Day of Windsor Forest (1887) [ysgrifennwyd 1862]
- Prospectus: Classical Education
Dramâu
[golygu | golygu cod]- The Three Doctors
- The Dilettanti
- Gl'Ingannati, or The Deceived (cyfieithiad o'r Eidaleg, 1862)
Straeon a nofelau anorffenedig
[golygu | golygu cod]- Satyrane (c. 1816)
- Calidore (c. 1816)
- The Pilgrim of Provence (c. 1826)
- The Lord of the Hills (c. 1835)
- Julia Procula (c. 1850)
- A Story Opening at Chertsey (c. 1850)
- A Story of a Mansion among the Chiltern Hills (c. 1859)
- Boozabowt Abbey (c. 1859)
- Cotswald Chace (c. 1860)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peacock, Thomas Love (1891). Cyflwyniad i argraffiad 1891 o Headlong Hall. Dent.
- ↑ Peacock, Thomas Love (1815). "Headlong Hall". Gutenberg. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ "Peacock, Thomas Love (1785–1866), satirical novelist and poet | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-21681. Cyrchwyd 2019-11-19.